Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2024
Amser:
09.00 -
09.39
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Heledd Fychan AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
Dydd Mawrth
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm
Dydd Mercher
- Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Gofynnodd Heledd Fychan am ddatganiad gan y Llywodraeth yr wythnos hon ar y sefyllfa yn Hirwaun lle mae nifer o drigolion wedi cael eu cynghori i adael eu heiddo oherwydd bod RAAC yn cael ei ddarganfod. Dywedodd y Trefnydd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu datganiad.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn cyhoeddi y bydd balot terfynol Bil Aelod y Senedd hon yn cael ei gynnal ar 24 Ebrill ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 19 Mawrth 2024
· Dadl: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (60 munud)
·
Datganiad gan y Prif Weinidog:
Datganiad ymddiswyddo (30 munud) - tynnwyd yn ôl
Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i amrywio’r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (5 munud)
· Bil Seilwaith (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi (5 mun)
· Dadl: Cyfnod 4 Bil Seilwaith (Cymru) (15 munud)
Trafododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cydnabod ymddiswyddiad y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mawrth, a chytunwyd y byddai'r trefniadau'n cael eu cwblhau yn dilyn trafodaeth bellach rhwng y Llywodraeth a'r Llywydd.
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 24 Ebrill 2024 –
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 20 Mawrth:
Heledd Fychan
NNDM8505
Cynnig bod y Senedd:
1. O’r farn:
a) bod casgliadau cenedlaethol Cymru – sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – yn perthyn i bawb yng Nghymru;
b) bod angen gwarchod y casgliadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; a
c) bod mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod.
2. Nodiadau:
a) rhybuddion gan y sefydliadau bod toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau cenedlaethol, oherwydd llefydd a storfeydd anaddas, a hefyd gostyngiad yn nifer y staff arbenigol sydd bellach yn cael eu cyflogi i ofalu amdanynt;
b) y pryderon y bydd toriadau pellach yn gwaethygu'r sefyllfa; a hefyd
c) cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 am ein casgliadau cenedlaethol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau a ganlyn:
a) comisiynu panel o arbenigwyr i sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r sefydliadau a Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun i’w diogelu;
b) gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – a’r undebau sy’n cynrychioli’r staff yn y sefydliadau hyn – i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; a
c) gweithio gydag Amgueddfa Cymru i gadw’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol.
Nododd y Pwyllgor Busnes y papur a chytunodd ar ganllawiau i’w rhoi i’r Aelodau ar y weithdrefn ar gyfer enwebu Prif Weinidog newydd.
Bu'r Pwyllgor Busnes yn ystyried gohebiaeth bellach a gafwyd oddi wrth y Trefnydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am resymau'r Llywodraeth dros gynnig amserlen sy'n cynnwys cyfnod cyflym ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, yn ogystal â'r farn ar yr amserlen a fynegwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Biliau Diwygio.
Ar sail barn y mwyafrif, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen a gynigiwyd gan y Llywodraeth.
Mynegodd Darren Millar ei wrthwynebiad cryf i’r amserlen, ei farn na ddylid cwtogi ar waith craffu ar Fil o’r natur hon, ac y dylai’r Llywodraeth fod wedi cyflwyno’r Bil yn gynt pe bai ganddi bryderon ynghylch yr amser sydd ar gael i roi’r darpariaethau ar waith mewn pryd ar gyfer etholiad y Senedd 2026.
Nododd y Llywydd ei gwrthwynebiad i’r amserlen arfaethedig a dywedodd, lle mae yna gwestiwn – fel yn yr achos hwn – a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gwaith craffu Cyfnod 1 yw’r man priodol i’r materion hynny gael eu codi. Nododd y byddai'n ysgrifennu at y pwyllgorau perthnasol er mwyn rhannu ei barn ar yr amserlen.
Cwestiynodd y Dirprwy Lywydd, fel Cadeirydd Pwyllgor y Bil Diwygio, agweddau ar gyfiawnhad y Llywodraeth dros fod angen amserlen gyflym a mynegodd hefyd y farn, lle mae yna gwestiwn o ran cymhwysedd, na ddylid cytuno ar amserlenni cyflym.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i gynnal gwaith craffu arnynt, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau yw 17 Mai 2024 ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn, a rhai blaenorol eraill ar y Bil hwn.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1392.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyfarfod fore Mawrth 7 Mai oherwydd ei bod yn Ŵyl y Banc ar 6 Mai.
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr Hydref a Thoriad y Nadolig yn 2024.
Nododd Heledd Fychan y gallai amseriad Toriad y Nadolig effeithio ar waith craffu ar y Gyllideb pe bai Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb ddrafft yn hwyr eto, fel mewn blynyddoedd blaenorol. Nododd y Pwyllgor Busnes y potensial ar gyfer gwneud addasiadau yn ddiweddarach, pe bai angen, mewn ymateb i ddigwyddiadau yn ymwneud â’r amserlen ar gyfer y Gyllideb eleni.
At hynny, cytunodd y Pwyllgor ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn a Thoriad y Pasg yn 2025.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn, cwestiynau ysgrifenedig a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg a gwyliau banc priodol. At hynny, nododd y Pwyllgor fod y Gweinidogion y cyfeiriwyd atynt fel rhai a oedd yn ateb Cwestiynau Llafar ar ôl toriad y Pasg yn destun newid yn sgil penodi Llywodraeth newydd.
Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Hysbysodd y Trefnydd y Rheolwyr Busnes am fwriad y Llywodraeth i drefnu trafodion Cyfnod 4 ar y Bil ddydd Mercher 8 Mai.